Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee

Tai carbon isel: yr her | Low carbon housing: the challenge

 

Ymateb gan : Ffederasiwn y Meistr Adeiladu Cymru

Evidence from : Federation of Master Builders Cymru

 

 

Ynglyn a Ffederasiwn y Meistri Adeiladu

 

Ffederasiwn y Meistri Adeiladu (Federation of Master Builders [FMB]) yw’r gymdeithas fasnach fwyaf o fewn diwydiant adeiladu Prydain a Chymru. Cafodd yr FMB ei sefydlu yn 1941 i amddiffyn ac i hyrwyddo buddion cwmnïau adeiladu maint bach a chanolig.

 

Cwestiwn 1

 

Y cyfraniad y gall tai ei wneud wrth i Gymru bontio i economi rhad ar garbon, gan gynnwys yr effeithiau cadarnhaol posibl ar allyriadau nwyon tŷ gwydr

 

Mae ein tai yn gyfrifol am 24% o allyriadau nwyon tŷ gwydr o fewn y meysydd datganoledig, felly wrth reswm gallai gostwng allyriadau tai wneud gwahaniaeth sylweddol.

 

Cwestiwn 2

 

Datblygiad y dechnoleg sydd ei hangen ar gyfer tai sy'n defnyddio ynni'n effeithlon iawn, ac i ba raddau y mae'r dechnoleg honno ar gael

 

Mae adeiladwyr yn tueddu i godi ac adnewyddu tai yn unol a gofynion eu cwsmeriaid neu ofynion rheoliadau adeiladu. Dydym heb eto gael ein hysbysu gan aelod fod cwsmer neu reoliad wedi gofyn am dechnoleg penodol, ac nad yw’r dechnoleg ar gael.

 

Dylid canolbwyntio ar bwynt pen draw (lleihau allyriadau carbon) yn hytrach na'r modd (hynny yw, technolegau penodol) a pherfformiad gwirioneddol yn hytrach na modelau (e.e. trwy ddefnyddio data o fesuryddion smart).

 

Cwestiwn 3

 

Y newidiadau sydd eu hangen i sicrhau bod y stoc dai bresennol yn defnyddio ynni mor effeithlon ag y bo modd

 

Dylai perfformiad ynni tŷ fod yn un o feini prawf benthyca ar gyfer morgais gan fanciau a chymdeithadau adeiladu. Hynny yw, os yw tŷ’n rhatach i’w redeg, dylai hynny olygu fod gan y prynwr fwy o arian, felly fe ddylai allu fenthyg mwy ar delerau gwell.

 

Cwestiwn 4

 

A yw'n bosibl ac yn ymarferol darparu tai fforddiadwy ar raddfa fawr yng Nghymru a'r rheiny'n effeithlon iawn o ran carbon ac yn cynhyrchu mwy o ynni nag y maent yn ei ddefnyddio ac, os felly, sut y gellir cyflawni hyn

 

Fel Ffederasiwn sy’n gynrychioli adeiladwyr sy’n gweithredu yn bennaf o fewn y farchnad breifat, mae’r ateb yma’n canolbwyntio ar dai fforddiadwy sy’n cael eu darparu gan y sector breifat yn hytrach na gan Gymdeithasau Tai neu Lywodraethau Lleol.

 

Mae na sialensiau i ateb y galw am dai fforddiadwy fel ag y mae hi, heb grybwyll lefelau effeithlonrwydd y tai.

 

Os astudiwch chi helyntion y math a maint cwmnïau adeiladu tai dros y degawdau diwethaf, mi welwch chi batrwm amlwg. Gyda threuliad amser, mae nifer y tai sy’n cael eu hadeiladu gan gwmnïau bach wedi dirwyio’n sylweddol, ac erbyn hyn mae rhyw dri chwarter o dai newydd sy’n cael eu codi yng Nghymru yn cael eu hadeiladu gan rhyw hanner dwsin o gwmnïau mawr sy’n gwithredu ar lefel Prydeinig. Dim ond rhyw 15% sy’n cael eu hadeiladu gan gwmnïau maint bach a chanolig.

 

Pam fod hyn yn broblem yng nghyd-destun yr argyfwng o ddiffyg tai fforddiadwy? Yn syml, dyw’r cwmnïau mawr ddim yn adeiladu digon o dai i ateb y galw. Mae hi’n amlwg felly fod angen mwy o amrywiaeth o ran y nifer a’r math o gwmnïau sy’n adeiladu tai os yw’r cyflenwad am ateb y galw.

 

Mae yna rwystrau niferus i gwmnïau bach sydd yn awyddus i godi tai. Mae rhain yn cynnwys diffyg mynediad i gyllid priodol, diffyg gweithwyr sy’n ddigonol sgilgar, rheoliadau adeiladu gor-feichus, a system gynllunio aneffeithlon.

 

Os y bydd codi tai effeithlon yn gosod mwy o faich a chostau ar adeiladwyr bach, gallai hynny fod yn rhwystr ychwanegol i gwmnïau bach rhag codi tai, ac mae’r rhwystrau sy’n bodoli eisioes yn niferus.

 

Rhaid hefyd gwestiynu os yw lefelau sgiliau’n ddigonol o fewn y diwydiant i gyd-fynd a datblygiadau technolegol.

 

Cwestiwn 5

 

Y ffactorau sy'n rhwystr rhag cyflwyno newid trawsnewidiol ym maes adeiladu tai yng Nghymru

 

Wedi ateb uchod

 

Cwestiwn 6

 

Rôl Ofgem a'r grid cenedlaethol o ran galluogi'r grid i esblygu i ddarparu ar gyfer mathau newydd o dai, a'r heriau a gyflwynir wrth i ynni gael ei gyflenwi o ffynonellau wedi'u datganoli

 

Dim barn

 

Cwestiwn 7

 

A oes gan Gymru'r sgiliau angenrheidiol i hwyluso a galluogi newid yn y sector tai

 

Mae hyn yn ddibynnol ar y dulliau adeiladu. Pa mor anhebyg ydynt i ddulliau presennol?

 

Cwestiwn 8

 

Y newidiadau y mae angen eu gwneud i Reoliadau Adeiladu yng Nghymru er mwyn symud yn gyflymach tuag at safonau ynni lle y cynhyrchir bron ddim carbon, a thu hwnt i hynny

 

Mae hi’n holl-bwysig fod yna atodlen glir ac amserol os y bydd unrhyw newidiadau i Reoliadau Adeiladu yn digwydd i ganiatau i fusnesau a defnyddwyr i baratoi’n effeithlon ac i farchnadoedd deinamig amlygu eu hunain.

 

Cwestiwn 9

 

Sut y gellir cynllunio a siapio cymunedau i ddefnyddio ynni'n fwy effeithlon a chynhyrchu llai o garbon (gan gynnwys enghreifftiau o arfer da yng Nghymru a thu hwnt)

 

Dim barn